Skip to main content

Newyddion

AquaMona: Y fferm bysgod fawr gyntaf yn Iwerddon sy’n defnyddio llinad y dŵr

17 Rhag 2021
Golwg agos ar byllau pysgod a chamlesi llinad y dŵr ar y safle ym Mount Lucas

Lle unigryw braidd yw fferm Mount Lucas ger Daingean yn Swydd Offaly. Heblaw am ei lleoliad trawiadol ar sawl erw o orgors wyntog, y mae hefyd yn gartref i brosiect economi gylchog cyffrous. Drwy brosiect AquaMona, y mae mawndir a fu gynt yn perthyn i Bord na Móna wedi cael ei drawsffurfio’n unig fferm bysgod fasnachol fawr Iwerddon sy’n defnyddio llinad y dŵr.

 

Bydd llinad y dŵr yn tyfu ar wyneb y dŵr, lle bydd yn amsugno’r amonia a gynhyrchir gan bysgod. Bydd y llinad yn ffynnu ar y ffynhonnell hon o faethynnau, gan dyfu’n gyflym yn fio-màs llawn protein. Bydd llinad y dŵr yn tyfu mor gyflym fel y bydd bron yn dyblu ei bwysau mewn 24 awr! Gellir defnyddio’r cnwd hwn yn ymborth i anifeiliaid, yn fwyd i bobl neu’n wrtaith. Fe â’r dŵr glân yn ôl i’w ailddefnyddio wedyn yn y fferm bysgod, yn yr hyn a elwir yn system ‘cylch caeedig’, lle caiff gwastraff ei ailddefnyddio yn hytrach na’i ollwng. Mae cyfanswm aruthrol o 35 tunnell o frithyll, brithyll seithliw a draenogyn dŵr croyw yn cael ei drwyddedu i’r fferm bob blwyddyn gan yr Adran Amaeth, Bwyd a Môr!

Bydd tîm Brainwaves yn ymweld yn rheolaidd â’r safle i gadw golwg ar dwf a photensial adfer gwahanol hilion o linad. Ym mis Hydref y bu ein hymweliad astudio diwethaf â’r safle, cyn i’r tymor tyfu ddod i ben ar gyfer y gaeaf. Cawsom sawl cilo o fio-màs llinad, a sychwyd ag allgyrchydd, a mynd â hwy yn ôl i’r labordy yn UCC ar gyfer profion a dadansoddiad. Gwnaethom nodi hefyd ganlyniadau arbrofion lle defnyddiwyd y bio-màs llinad, sy’n llawn maethynnau, yn wrtaith i blanhigion hadau mwstard. Drwy roi llinad arnynt cafwyd cynnydd amlwg yng nghyfraddau twf planhigion o’u cymharu â phlanhigion na chawsant linad.

Mae’r gaeaf bellach wedi cyrraedd, sy’n golygu na fydd fawr o dwf ar y safle am yr ychydig fisoedd nesaf. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn y gwanwyn nesaf, pan ddechreua’r holl gylchdro eto.

 

 

 

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA