Beth yw prosiect BRAINWAVES?
Mae Brainwaves yn cymryd ymagweddiad economi gylchog at amaethyddiaeth gynaliadwy. Gan ddefnyddio planhigyn dŵr cyffredin, o’r enw llinad y dŵr, mae gwyddonwyr Brainwaves yn treialu systemau technolegol arloesol i dyfu llinad y dŵr ar ffrydiau gwastraff amaethyddol, rhywbeth a wnaiff, os bydd yn llwyddiannus, gynnig i ffermwyr y buddion deublyg o lanhau gwastraff fferm ar yr un pryd â meithrin cnwd sy’n llawn protein. Yn ei hanfod, drwy amsugno maetholion gormodol (nitradau a ffosffadau), gall llinad y dŵr greu gwerth o wastraff ar ffurff cnwd llawn protein y gellir ei ddefnyddio mewn ymborth i anifeiliaid, gan leihau dibyniaeth ffermwyr ar ffa soia wedi’u mewnforio. Mae gan yr ymchwil hon y potensial i ddod â buddion economaidd ac amgylcheddol gwirioneddol i arferion ffermio yn Iwerddon, Cymru, a thu hwnt.
![](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/movedfromsite11/Visualisation2(nologo)-1350x500.jpg)
Beth sy’n Digwydd
![Livestock Slurry Crew!!](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/brainwavesimages/brainwavesimages/annie-spratt-JMjNnQ2xFoY-unsplash(1)-600x400.jpg)
New Brainwaves Publication!! Acidification increases efficiency of Lemna minor N and P recovery from diluted cattle slurry
![Local dairy farmers gather together in UCC to discuss the future for integrating duckweed cultivation in Irish farming](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/movedfromsite11/Bluesurfphotocollage.png)
Duckweed as a novel protein crop for Ireland
![Dr Dylan Gwynn-Jones yn cael ei gyfweld gan BBC Radio 4 ar gyfer ‘Farming Today’](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/brainwavesimages/brainwavesimages/Image(30).jpeg)
Diwrnod prysur yn Sioe Frenhinol Cymru
![O’r chwith: Rheolwr Prosiect Brainwaves, Dr Siobhan Higgins, Swyddog Datblygu, Samantha Richardson a Rheolwr Prosiect Lleol Brainwaves, Lesley Langstaff](/en/media/projectsandcentres/brainwaves/brainwavesimages/brainwavesimages/056.jpg)
Dathlu cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru ers 1994 ac edrych tua’r dyfodol
Partneriaid
Prosiect ymchwil 3.5 blynedd yw Brainwaves a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon a Chymru.
Mae partneriaid Prifysgol Brainwaves yn cynnwys:
-Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol a’r Athrofa Ymchwil Amgylcheddol yng Ngholeg Prifysgol
Cork yn Iwerddon.
-Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.